Gwyddoniadur
ABERDÂR, Rhondda Cynon Taf (2,030ha; 14,457 o drigolion)
Lleoliad y gymuned hon yw rhan uchaf Cwm Cynon ac mae ei thiriogaeth yn cynnwys tref Aberdâr a’i maestrefi mewnol – Aber-nant, Cwmdâr, Gadlys, Robertstown a Thregynon. Yn amlach na pheidio sonnir am Aberdâr a Chwm Cynon yn yr un gwynt, a gelwir y cwm yn Gwm Aberdâr yn aml; hyd at 1974 etholaeth Aberdâr oedd enw etholaeth Cwm Cynon.
Diolch i weithgaredd erydol y rhewlif a ledodd ben uchaf Cwm Cynon gallai Aberdâr ddatblygu’n dref gnewyllol. Yn 1800, fodd bynnag, casgliad ydoedd o gwta ddwsin o dai a safai o amgylch eglwys fechan Sant Ioan (12g. a 13g.). Dechreuodd y dref dyfu’n sylweddol pan sefydlwyd tri gwaith haearn yn y cyffiniau ¬– Llwytgoed (1801), Aber-nant (1801) a’r Gadlys (1827). Yn sgil y diwydiannu agorwyd Camlas Aberdâr yn 1812. Cynyddodd poblogaeth plwyf Aberdâr (a oedd yn cynnwys cymunedau diweddarach Aberaman, Cwm-bach, Llwytgoed a Phen-y-waun) o 1,486 yn 1801 i 6,471 yn 1841. Yn y 1840au daeth yr ardal yn brif ganolfan cloddio glo ager yng Nghymru, gwaith a hwyluswyd pan gwblhawyd rheilffordd Aberdâr yn 1846. Cynyddodd poblogaeth y plwyf i 14,991 erbyn 1851 ac i 32,247 erbyn 1861. Gan mai Aberdâr oedd y lle mwyaf bywiog yng Nghymru ar y pryd, arferid dweud mai’r ‘hyn y mae Aberdâr yn ei feddwl heddiw, y bydd Cymru’n ei feddwl yfory’. Roedd yn gartref i ddau o arweinwyr crefyddol amlycaf Cymru – y clerigwr Anglicanaidd John Griffith (1818?–85) a’r gweinidog o Fedyddiwr Thomas Price (1820–88). A’r dref yn ganolfan gyhoeddi o bwys, Aberdâr a fu’n bennaf cyfrifol am hybu’r ymgyrch a arweiniodd at ethol Henry Richard yn aelod senedddol dros etholaeth Merthyr Tudful ac Aberdâr yn 1868.
Yn ystod blynyddoedd ffyniannus y 1850au y cafodd canol tref Aberdâr ei adeiladu. Dyma pryd y codwyd Sgwâr Victoria, Eglwys Sant Elfan gyda’i th?r pigfain uchel, adeiladau mawr y farchnad ac amryw o’r ugain neu fwy o gapeli sydd yn y dref. Ond byrhoedlog fu goruchafiaeth Aberdâr. Yn y 1870au datblygodd y Rhondda yn gyflym iawn gan ddiorseddu’r dref fel prif ganolfan cynhyrchu glo ager Cymru, ac yn ystod yr un degawd daeth y gwaith o gynhyrchu haearn yn Aberdâr i ben. (Mae’r hyn sy’n weddill o waith haearn y Gadlys yn un o safleoedd archaeoleg ddiwydiannol pwysicaf Cymru.) Serch hynny, parhaodd y diwydiant glo i ehangu, ond ar raddfa lai nag yn ystod y 1840au a’r 1850au. Cyrhaeddodd poblogaeth y plwyf, a ddaeth yn ddosbarth trefol Aberdâr yn 1894, ei benllanw o 55,007 yn 1921. Megis pob rhan arall o faes glo’r de, dioddefodd Aberdâr yn enbyd yn ystod y Dirwasgiad rhwng y ddau ryfel byd, ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd datblygwyd diwydiannau newydd, yn arbennig ffatrïoedd arfau yn Robertstown a Hirwaun, gan leddfu’r diweithdra. Wedi’r rhyfel, gwnaed ymdrechion pellach i arallgyfeirio’r economi, ond ar ddechrau’r 21g. y mae Aberdâr yn gartref i rai o deuluoedd tlotaf Cymru.
Roedd Hen Dŷ Cwrdd yr Undodwyr, a sefydlwyd yn Nhrecynon yn 1751, yn feithrinfa bwysig i’r radicaliaeth a nodweddai Aberdâr. Yn Robertston gwelir y bont reilffordd haearn gynharaf yn y byd ac arni ddyddiad (1811). Mae parc cyhoeddus Aberdâr, a grëwyd yn y 1860au, yn cynnwys meini’r Orsedd, sy’n dwyn i gof ymweliadau’r Eisteddfod Genedlaethol â’r dref yn 1861, 1885 ac 1956. Ar dir a anrheithiwyd gan y diwydiant glo sefydlwyd Parc Gwledig Cwmdâr. Saif cerflun Goscombe John (1920) o Caradog (Griffith Rhys Jones), arweinydd Undeb Corawl De Cymru, yn Sgwâr Victoria. Yn Aberdâr y dechreuodd Kate Roberts lenydda; roedd yn athrawes yn ysgol ramadeg y merched rhwng 1917 ac 1928. Mae’r Coliseum yn Nhrecynon (1938) a’r Theatr Fach yn y Gadlys (cwt injans a addaswyd yn ddyfeisgar) yn ganolog i fywyd diwylliannol y cylch. Y Coleg Addysg Bellach (c.1955) yw un o’r enghreifftiau mwyaf nodedig ym Morgannwg o bensaernïaeth fodernaidd y cyfnod wedi’r rhyfel.



