Gweithgareddau’r Maes

Gweithgareddau’r Maes

Academi

Dyma fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Academi hyd a lled y Maes. 

Dydd Sadwrn 2 Awst

11.00 am ar Stondin Academi

Gwobrwyo Enillydd Cystadleuaeth Academi / Lingo Newydd yng nghwmni’r beirniad, Catrin Dafydd.  Dewch i wrando ar feirniadaeth Catrin ac ar ddarlleniad o’r stori fer fuddugol, yn ogystal â chyfarfod â’r enillydd .

Dydd Llun 4 Awst

3.00 pm yn y Babell Lên

Lansiad Rhifyn 134 Haf 2008 y cylchgrawn Taliesin yng nghwmni’r golygyddion Manon Rhys a Christine James a rhai o’r cyfranwyr.

Dydd Mawrth 5 Awst

2.00 pm ar Stondin Academi

Dewch i gael paned a sgwrs yng nghwmni enillydd Llyfr y Flwyddyn 2008, Gareth Miles.  Bydd hefyd yn darllen detholiad o’i gyfrol fuddugol, Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch).

Dydd Mercher 6 Awst

2.00pm ar Lwyfan Perfformio 1

“Brwydr Brains”, talwrn answyddogol i feirdd di-goron a di-gadair dan arweiniad Rhys Dafis.

Dydd Iau 7 Awst

3.00pm ar Lwyfan Perfformio 2 

Perfformiad gan aelodau Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc, dan arweiniad Ed Holden ac Aneirin Karadog.

Dydd Gwener 8 Awst

1.00 pm ar Stondin Cymdeithas Cyfiawnder Cymru

Gweithdy gyda Bardd Plant Cymru, Ifor ap Glyn.

Dydd Sadwrn 9 Awst

1.00pm, Stondin yr Academi

Cylch Trafod y Cyfansoddiadau. Byddwch y cyntaf i ddweud eich dweud am weithiau llenyddol buddugol Eisteddfod 2008.