Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd
Mae Prosiect Datblygu Llenyddiaeth Gwynedd yr Academi yn dal i ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw awdurdod lleol goleuedig ac animateurs llenyddol galluog at ei gilydd.
Penodwyd yr awdures a’r actores Gwen Lasarus James yn gynnar yn 2003 yn Swyddog Datblygu newydd. Yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf bu Gwen yn ymweld â rhai o’r prosiectau hynod lwyddiannus a sefydlwyd gan ei rhagflaenwyr yn y swydd. Ymhlith y gweithgareddau hynny mae Hei Hogia, sioe deithio ddwyieithog sy’n annog bechgyn yn eu harddegau i ddarllen ac ysgrifennu eu straeon eu hunain, Bawd, cylchgrawn newydd yn canolbwyntio ar lyfrau, awduron a darllen, a Chlwb Darllen y Cofis, grw^p darllen poblogaidd yng Nghaernarfon.
Mae llawer o weithgareddau eraill, gan gynnwys gwersi cynghanedd, Sgwadiau Sgwennu ac ati, yn dal i fynd o nerth i nerth yng Ngwynedd.


