Cystadleuaeth Academi - Lingo Newydd
Cystadleuaeth Academi / Lingo Newydd
Mae’r Academi a’r cylchgrawn i ddysgwyr, Lingo Newydd yn cynnal cystadleuaeth flynyddol i ddysgwyr ysgrifennu stori fer yn y Gymraeg. Mae’r gystadleuaeth yn agored i ddysgwyr o bob safon a phrofiad a cyflwynir y wobr ar faes yr Eisteddfod Genedlasethol.
Gwobrau:
Gwobr ariannol o £50
Tanysgrifiad blwyddyn i Golwg a Taliesin
£50 i’w wario ar lyfrau Gwasg Gomer
Aelodaeth blwyddyn i’r Academi
Cyhoeddir y stori fuddugol yng nghylchgrawn Lingo Newydd
Bydd manylion Cystadleuaeth 2009 ar y wefan hon yn y gwanwyn.
Enillydd 2008

Y beirniad, Catrin Dafydd yn cyflwyno’r wobr i enillydd cystadleuaeth 2008 sef Malcolm Llywelyn o Aberhonddu ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Llongyfarchiadau mawr iddo.
Sylwadau Catrin Dafydd: Darn annwyl sy’n dangos clyfrwch mewn symlrwydd. Roedd yma gymeriadau credadwy a rhyngweithio diddorol rhwng y cymeriadau. Cafwyd disgrifiadau heb fod yn ormodol a llifodd y dweud gan yrru’r darllenydd yn ei flaen.



