CaerDydd a Nos

24 awr yn y Brifddinas

Heather Jones  Catrin Dafydd  Gwyneth Glyn 

Rhys Iorwerth  Owain Rhys 

Nos Lun 4 Awst 2008, 8.00pm
Maes C Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch

Barddoniaeth a cherddoriaeth yng nghwmni Heather Jones, Catrin Dafydd, Gwyneth Glyn, Rhys Iorwerth ac Owain Rhys. Ymunwch â nhw am wibdaith o amgylch Caerdydd – y doniol a’r dwys, y gwleidyddol a’r cymdeithasol, y pleser a’r poen. 24 awr mewn un noson. Peidiwch â’i cholli. Trefnir ar y cyd rhwng Academi a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Tocynnau: £8 (£6 i fyfyrwyr, pensiynwyr ac aelodau’r Academi)
Llinell docynnau: 0845 122 1176
Academi: 029 2047 2266 / Tŷ Newydd: 01766 522 811

Cynhelir MaesC mewn pabell fawr ar faes carafanau’r Eisteddfod ar gaeau chwarae Blackweir yng nghanol dinas Caerdydd. Bydd bar hwyr ar gael tan 2.00am.