Gweithgareddau’r Maes
Gweithgareddau’r Maes

Dyma fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Academi hyd a lled y Maes.
Dydd Sadwrn 2 Awst
11.00 am ar Stondin Academi
Gwobrwyo Enillydd Cystadleuaeth Academi / Lingo Newydd yng nghwmni’r beirniad, Catrin Dafydd. Dewch i wrando ar feirniadaeth Catrin ac ar ddarlleniad o’r stori fer fuddugol, yn ogystal â chyfarfod â’r enillydd .
Dydd Llun 4 Awst
3.00 pm yn y Babell Lên
Lansiad Rhifyn 134 Haf 2008 y cylchgrawn Taliesin yng nghwmni’r golygyddion Manon Rhys a Christine James a rhai o’r cyfranwyr.
Dydd Mawrth 5 Awst
2.00 pm ar Stondin Academi
Dewch i gael paned a sgwrs yng nghwmni enillydd Llyfr y Flwyddyn 2008, Gareth Miles. Bydd hefyd yn darllen detholiad o’i gyfrol fuddugol, Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch).
Dydd Mercher 6 Awst
2.00pm ar Lwyfan Perfformio 1
“Brwydr Brains”, talwrn answyddogol i feirdd di-goron a di-gadair dan arweiniad Rhys Dafis.
Dydd Iau 7 Awst
3.00pm ar Lwyfan Perfformio 2
Perfformiad gan aelodau Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc, dan arweiniad Ed Holden ac Aneirin Karadog.
Dydd Gwener 8 Awst
1.00 pm ar Stondin Cymdeithas Cyfiawnder Cymru
Gweithdy gyda Bardd Plant Cymru, Ifor ap Glyn.
Dydd Sadwrn 9 Awst
1.00pm, Stondin yr Academi
Cylch Trafod y Cyfansoddiadau. Byddwch y cyntaf i ddweud eich dweud am weithiau llenyddol buddugol Eisteddfod 2008.



