Noddi Digwyddiadau

Cyflwyniad

Mae gan yr Academi dri chynllun ariannu a all gynnig cymorth tuag at weithdai llenyddol, darlithoedd, darlleniadau, cynadleddau, stompiau, nosweithiau cerdd a chwrw ac yn wir unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud ag arfer, hyrwyddo, gwerthfawrogi neu ddatblygu ysgrifennu creadigol:

Awduron ar Daith
Cefnogi Rhaglenni  
Awduron Preswyl
 

Mae’r Academi hefyd yn cynnig arian tuag at Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifanc.

Mae’r cyfan yn cynnig cymorth i hyrwyddwyr llenyddiaeth a sefydliadau addysgol ledled Cymru. Bydd staff yr Academi yn falch o roi cyngor ar unrhyw agwedd ar gynllunio llenyddiaeth ac mae’r adran hon o’r wefan yn rhoi manylion llawn am bob cynllun.

O flwyddyn i flwyddyn mae’r tri chynllun hyn gyda’i gilydd yn darparu cyllid i ryw 1,400 o wahanol ddigwyddiadau gyda chyfanswm o dros 90,000 yn mynychu/cyfranogi. Cyn hir, bydd yr Academi’n croesawu ei miliynfed aelod o’r gynulleidfa.

Mae’r panel ochr (i’r chwith) yn rhoi gwybodaeth bellach am y canllawiau cyllido sy’n rheoli beth y gallwn ac na allwn ei gefnogi, yn dweud wrthych sut i gyflwyno cais am arian ac yn cynnwys cyswllt at dudalennau Awduron Cymru.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar eich gwaith rhaglennu a chynllunio llenyddiaeth, gallwch ffonio’r Academi ar 029 2047 2266 neu anfon neges at post@academi.org.