#include_no_cache_include("/includes_standard/always_run.cfm")#

Pwyllgor Aelodau


Arwel JonesArwel Jones (Cadeirydd – Adran Gymraeg)
Un o Rosybol, Ynys Môn, yn wreiddiol, ond erbyn heddiw wedi hen ymgartrefu yn Aberystwyth. Yno, gweithia fel Archifydd Derbyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae’n aelod brwd o Glwb Darllen y Cw^ps. Mae’n fardd ac awdur sydd wedi’i gyhoeddi droeon mewn cylchgronau megis Taliesin, Tu Chwith a Barddas. Yn sgil ei deithiau difyr i lefydd pellennig, cyhoeddodd ddwy gyfrol taith, Diolch i ’Nhrwyn (Y Lolfa, 2002) a Jambo Caribw: Taith i Borth Uffern (2004).
Catherine MerrimanCatherine Merriman (Cadeirydd – Adran Saesneg)
Nofelydd ac awdur straeon byrion. Ganwyd yn Llundain ac fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Kent, Swydd Caint. Bu’n gweithio fel ystadegydd, darlithydd mewn astudiaethau menywod a gweithwraig amgylchedd. Mae nawr yn diwtor MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg.  Mae wedi cyhoeddi gwaith yn y New Welsh Review, Everywoman, Essentials, ayb., ac wedi darlledu ar Radio 4. Enillodd Wobr Llyfr Prydeinig yn 1992, Gwobr Goffa Ruth Hadden a bu ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 1992.
Elinor Wyn ReynoldsElinor Wyn Reynolds
Bardd, dramodydd a darlledwraig sydd wedi llwyddo yn ddiweddar i ddychwelyd i’w chynefin yn Shir Gâr. Cyhoeddir ei gwaith yn gyson mewn cylchgronau megis Taliesin, Barn a Golwg. Yn Hydref 2000 perfformiodd Cwmni Theatr Bara Caws ei drama, DJ Ffawst. Bu ynghlwm â theithiau barddonol Dal Clêr (1993), Taith Glyndw^r (2000) ac yn 2001 creodd hithau ac Ifor ap Glyn farddoniaeth i gyd–fynd â’r sioe aml-gyfryngol Lliwiau Rhyddid.
Gillian ClarkeGillian Clarke
Bardd, awdur, dramodydd, golygydd, cyfieithydd (o’r Gymraeg) a darlledwraig achlysurol. Llywydd canolfan ysgrifennu Tŷ Newydd yng Ngwynedd, a gydsefydlwyd ganddi yn 1990. Tiwtor MPhil mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg, ac yn diwtor ar ei liwt ei hunan yn ogystal.  Mae’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, Abertawe a Phrifysgol Caerdydd. Mae rhai o’i phrosiectau diweddaraf yn cynnwys Bioverse, cerddi ar gyfer Gerddi Botaneg Cymru 1999–2000; The Blue Man (drama ar gyfer Radio 4); a One Bright Morning, cyfieithiad o’r nofel Tegwch y Bore gan Kate Roberts.
Ifor ThomasIfor Thomas
Bardd–berfformiwr sy’n gweithio llawn amser fel pensaer yng Nghaerdydd. Awdur y cyfrolau Giving Blood, Bogwiser, The Stuff of Love, Pubic (Red Sharks Press) ac Unsafe Sex (Parthian, 1999). Mae’n ddilynwr (gobeithiol) o dîm pêl-droed Cymru.
Damian Walford DaviesDamian Walford Davies
Academydd, beirniad llenyddol a golygydd. Mae’n ddarlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gan arbenigo ar Ramantiaeth, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth Saesneg yn ystod oes Chwyldro Ffrainc, barddoniaeth yr 19fed a’r 20fed Ganrif a llenyddiaeth Cymru. Yn 2002/03 enillodd wobrau Ellis Griffith ac L.W. Davies am ei gyfrol ysgolheigaidd ar ryddiaith Waldo Williams.
Ann DrysdaleAnn Drysdale
Ganwyd yng Nghaer, a’i magu yn Llundain. Mynychodd Ysgol Ramadeg a Phrifysgol Efrog. Bu’n gweithio fel rhiant, newyddiadurwraig, bardd a ffarmwraig. Enillodd MA mewn Dysgu ac Ymarfer Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd ac enillodd Wobr Dylan Thomas am farddoniaeth a pherfformio. Mae wedi cyhoeddi gwaith mewn amryw o antholegau, gan gynnwys Thoughts Like an Ocean (Pont) a Twentieth–Century Anglo Welsh Poetry (Seren).
Diana GriffithsDiana Griffiths
Dramodydd sy’n ysgrifennu ar gyfer y llwyfan a’r radio. Yn enedigol o Nedd, cafodd ei haddysgu yn Ysgol Ramadeg Nedd, Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Caerdydd. Bu’n athrawes Saesneg mewn amryw o ysgolion cyfun ac yn Bennaeth Adran am 6 mlynedd. Bu hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol yn Arfon, Ty Newydd, drwy gynlluniau Celf Sir Gaerefrog, Gw^yl Ilkley a nifer o ysgolion, colegau a grwpiau ysgrifennu yn Sir Gaerefrog a Chymru.
Cary Archard
Ganed ger Aberda^r yn Ne Cymru. Golygydd Poetry Wales rhwng 1980–86, a sylfaenydd Poetry Wales Press, ef yw golygydd cyffredinol cyfrol o waith Alun Lewis. Tan yn ddiweddar dysgodd Saesneg ac Athroniaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dafydd John PritchardDafydd John Pritchard
Bardd a fagwyd yn Nant Peris yn Arfon.  Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Dolbadarn Llanberis ac Ysgol Brynrefail Llanrug, ac yna bu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Phrifysgol Aberystwyth.  Mae’n gweithio fel Archifydd Cynorthwyol yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Y Cw^ps, a thîm ymryson Ceredigion.  Enillodd Goron yn Eisteddfod Bro Dinefwr 1996.
Aled Lewis EvansAled Lewis Evans
Bardd ac awdur mewn amrywiol gyfryngau. Cafodd ei eni ym Machynlleth ond mae’n byw yn Rhosllanerchrugog.  Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi gan Barddas ym 1989. Bu’n darlledu am ddeng mlynedd ar radio lleol Sain y Gororau o 1983–1993 ac yn athro wedi hynny yn Ysgol Morgan Llwyd. Fe’i gwobrwywyd deirgwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru: ym 1991 am ei Gyfrol o Gerddi i Bobl Ifainc, ym 1998 am Fonolog, ac ym 1999 am Flodeugerdd o Gerddi addas i’r oedran 12-14.  Cyhoeddwyd ei gyfrol diwethaf, Dim Angen Creu Teledu Yma, eleni.
Luned EmyrLuned Emyr
Dramodydd a sgriptwraig.  Fe’i magwyd ym Mangor a’i haddysgu yno yn Ysgol Tryfan. Astudiodd Theatr, Ffilm a Theledu a Chymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.Yn 2002 enillodd ysgoloriaeth gan S4C, bwrsari gan Sgript Cymru a chefnogaeth ariannol gan Ffilmiau Eryri i fynychu’r Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Nenmarc. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer y gyfres Tipyn o Stad ac mae dwy ffilm o’i gwaith, Caru a Cameo, wedi eu cynhyrchu ar gyfer y teledu. Enillodd Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn 1999, 2001 a 2003; ac yn 2002 daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Lenyddiaeth. Hi sy’n cyflwyno rhaglen gelfyddydau S4C/ Cwmni Da, Dim Ond Celf.