New Welsh Review

Cylchgrawn chwarterol llenyddol Cymru yn Saesneg

Hydref 2007     Haf 2007     Gwanwyn 2007


New Welsh Review yw’r prif gylchgrawn chwarterol llenyddol yng Nghymru yn yr iaith Saesneg, ac fe’i cefnogir gan Gyngor Llyfrau Cymru a’r Academi Gymreig . Sefydlwyd y cylchgrawn ym 1988 yn olynydd i The Welsh Review (1939–1948) a Dock Leaves /The Anglo-Welsh Review (1949-1987). Dyma gylchgrawn sy’n dathlu, yn trafod ac yn dadlau o gylch y gorau o lenyddiaeth Cymru yn Saesneg, ddoe a heddiw. Mewn arolwg diweddar fe’i disgrifiwyd fel un o’r pum cylchgrawn llenyddol gorau ym Mhrydain yr oedd hi’n werth tanysgrifio iddynt.

Anelir y New Welsh Review yn bennaf, ond nid yn ddieithriad, at gynulleidfa Gymreig ac at y darllenwyr hynny sy’n ymddiddori mewn llenyddiaeth Gymraeg, Cymreig a Cheltaidd. Bydd pob rhifyn yn cynnwys amrywiaeth o erthyglau beirniadol ar bynciau o ddiddordeb llenyddol, diwylliannol a deallusol, yn ogystal â darparu llwyfan i straeon byrion, adolygiadau a cherddi newydd. Mae maes llafur eang i’r cylchgrawn, gan ei fod yn ymddiddori hefyd mewn datblygiadau llenyddol a diwylliannol o bwys mewn rhannau eraill o Brydain ac ymhellach oddi cartref.

Tanysgrifiadau:

Cost tanysgrifio i’r New Welsh Review yw:

  • £20 y flwyddyn/ £18 i Aelodau a Chefnogwyr yr Academi (4 rhifyn) neu
  • £38 am 2 flynedd / £36 i Aelodau a Chefnogwyr yr Academi (8 rhifyn)
  • Tanysgrifwyr tramor (Ewrop) ychwaneger £5.00 y flwyddyn
  • Tanysgrifwyr tramor (gweddill y byd) ychwaneger £10 y flwyddyn

Gostyngiadau i Aelodau a Chefnogwyr yr Academi.

I danysgrifio, ewch i wefan y New Welsh Review - www.newwelshreview.com

Anfoner sieciau sterling, archebion arian neu fanylion cerdyn credyd (Visa neu Mastercard: noder rhif y cerdyn credyd, y dyddiad y daw i ben, ac enw a chyfeiriad deiliad y cerdyn) i’r New Welsh Review Ltd., Blwch Post 170, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1WZ neu ffoniwch 01970 626230.

Mae modd anfon ymholiadau, tanysgrifiadau neu gyfraniadau i’r New Welsh Review trwy e-bost at: admin@newwelshreview.com