Ymaelodi

Ymuno â’r Academi 
 
Os ydych yn ymddiddori yn y byd llenyddol yng Nghymru mae modd i chi ddod yn un o Gefnogwyr yr Academi. Y gost ar hyn o bryd yw £15 y flwyddyn (cyflogedig) neu £7.50 (digyflog). Mae gan Gefnogwyr yr hawl i amryw o fanteision, gan gynnwys:

  • A470, cylchgrawn bywiog yr Academi, am ddim ar garreg eich drws bob dau fis
  • Blaenoriaeth wrth archebu tocynnau ar gyfer gweithgareddau’r Academi.
  • Llinell ffôn ymgynghorol ddi–dàl i lenorion
  • Gwybodaeth ymlaen llaw am weithgareddau a chyhoeddiadau llenyddol
  • 10% o ostyngiad ar fynediad gweithgareddau’r Academi a digwyddiadau eraill a gefnogir gan yr Academi
  • 10% o ostyngiad yn Palas Print, 7b, Stryd y Plas, Caernarfon. Ffôn: 01286 674631
  • 10% o ostyngiad yn Siop Lyfrau TSO (Oriel gynt), 18-19 Y Stryd Fawr, Caerdydd, CF10 1PT.  Ffôn: 029 2039 5548
  • 10% o ostyngiad yn Siop Pendref, 210, Y Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NY.  Ffôn: 01248 362676
  • Gostyngiad wrth danysgrifio i Taliesin: £9 am flwyddyn a £17 am dwy flynedd.  Cysylltwch â’r Academi i danysgrifio
  • 10% o ostyngiad o siop deunydd ysgrifennu MCM, Units 4 + 5, The Timber Yard, East Moors Road, Caerdydd, CF24 5EE.  Ffôn: 029 2047 0003, ffacs: 029 2049 2949, e-bost:  sales@mcmofficesupplies.co.uk
  • Gostyngiad wrth danysgrifio i Taliesin: £9 am flwyddyn a £17 am dwy flynedd.  Cysylltwch â’r Academi i danysgrifio
  • Tocynnau gostyngiad i weld perfformiad yn Clwyd Theatr Cymru (rhaid archebu tocyn o flaen llaw).  Ffôn: 01352 755114
  • 20% o ostyngiad ar bris dylunio taflenni a phapur ysgrifennu gan  Keith James Design Associates,  Ffôn: 029 2022 2117

I ddod yn Gefnogwr, anfonwch siec (yn daladwy i: Yr Academi Gymreig) am y swm priodol i Swyddfa’r Academi yng Nghaerdydd (3ydd Llawr, Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ). Neu cewch ddefnyddio’ch cerdyn credyd i dalu (Mastercard, Visa neu American Express). Wrth ymuno cofiwch grybwyll, os gwelwch yn dda, rif eich cerdyn, y dyddiad y daw i ben, a’r union enw ar y cerdyn.

(Ffurflen ar-lein)

Trwy wahoddiad y ceir Aelodaeth Lawn o ddwy adran yr Academi - y Gymraeg a’r Saesneg.